Sgiliau astudio

  • Ymunwch â ni o Ystafell Medru Coleg Cambria i ystyried moeseg defnyddio deallusrwydd artiffisial yn ystod eich taith ddysgu.
  • Bydd Rheolwr Cysylltiadau Busnes y Brifysgol Agored yng Nghymru yn archwilio barn pobl ar ddysgu gydol oes ac yn egluro sut y gallwch reoli eich twf personol a phroffesiynol drwy hunan-ddarganfod.
  • Bydd Bernie Ashton-Goh (Ymgynghorydd Iechyd Meddwl, Y Brifysgol Agored yng Nghymru) yn trafod beth sy’n achosi straen arholiadau, sut y gall effeithio arnoch a sut i ddelio ag o.
  • Bydd Ymgynghorwyr Addysg o’r Brifysgol Agored yng Nghymru yn chwalu mythau cyffredin ynghylch astudio ar lefel addysg uwch ac yn darparu gwybodaeth ar gyllid myfyrwyr, llwybrau i addysg uwch a’r cymorth sydd ar gael i fyfyrwyr.
  • Cyflwynir y gweithdy gan Sam Forde (Rheolwr Partneriaethau, Y Brifysgol Agored yng Nghymru) fydd yn rhoi awgrymiadau buddiol ynglŷn â sut i ddod yn ddysgwr llwyddiannus.
  • Ydych chi’n ystyried ai prifysgol yw’r dewis cywir i chi? Gwrandewch wrth i fyfyrwyr o holl brifysgolion Cymru rannu eu profiadau.
Yn ôl i'r llyfrgell