Ydych chi’n ystyried ai prifysgol yw’r dewis cywir i chi? Gwrandewch wrth i fyfyrwyr o holl brifysgolion Cymru rannu eu profiadau.

Mae dewis mynychu prifysgol yn gam mawr, felly mae hi’n naturiol iawn ystyried ai dyna’r penderfyniad cywir. Efallai eich bod yn cwestiynu eich gallu neu yn poeni am ffitio mewn? Efallai eich bod yn poeni am arian neu dan straen wrth wneud cais?
Mae Sgwrsio am Brifysgol yn bodlediad sydd wedi ymrwymo i rannu gwir brofiad myfyrwyr. Byddwn yn archwilio ac yn trafod yr holl feddyliau a theimladau a allai fod gennych, er mwyn eich paratoi i wneud y penderfyniadau cywir.
Gwrandewch a thanysgrifiwch i Sgwrsio am Brifysgol ar Spotify, Apple Podcasts , Amazon Music , neu le bynnag yr ydych yn cael eich podlediadau. Os hoffech wrando arno nawr, cliciwch y dolen isod.


