Hygyrchedd

Datganiad hygyrchedd ar gyfer rhgg.cymru

Mae’r Brifysgol Agored wedi ymrwymo i wneud ei gwefan a’i chymwysiadau symudol yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i rhgg.cymru.

Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio ein gwefannau a’n cymwysiadau symudol, ac mae hygyrchedd yn rhan hanfodol o’n cenhadaeth. Ar ein Accessibility hub, fe ddewch o hyd i bopeth fydd ei angen arnoch i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych am hygyrchedd, p’un a ydych yn fyfyriwr neu’n aelod o staff.

I addasu’r cynnwys i’ch anghenion neu’ch dewisiadau dylech fod yn gallu:

  • Newid lliwiau, lefelau’r cyferbyniad a ffontiau.
  • Newid maint testun hyd at 200% heb amharu ar weithrediad y wefan.
  • Zoom in up to 400% without loss of information or functionality.
  • Llywio’r wefan gan ddefnyddio’r bysellfwrdd yn unig.
  • Defnyddio darllenydd sgrin (e.e. JAWs, NVDA) i:
    • wrando ar gynnwys tudalennau gwe a defnyddio unrhyw swyddogaeth ar y dudalen.
    • rhestru’r penawdau a’r is-benawdau ar y dudalen ac yn neidio i’w lleoliad ar y dudalen.
    • cyflwyno rhestr ystyrlon o ddolenni ar y dudalen.

Statws cydymffurfiaeth

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We (WCAG) fersiwn 2.2 safon AA, oherwydd y diffyg(ion) cydymffurfio a restrir isod.

Cynnwys anhygyrch

Trawsgrifiadau AV, capsiynau caeedig ac isdeitlau
Nid oes gan rai fideos etifeddol sydd wedi’u hychwanegu at y wefan gapsiynau caeedig na thrawsgrifiadau eto. Mae hyn yn methu â chydymffurfio â WCAG A 1.2.2 a bydd yn cael ei ddatrys erbyn mis Medi 2026.

Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn

Paratowyd y datganiad hwn ar 26 Awst 2025. Adolygwyd y datganiad hwn ddiwethaf ar 26 Awst 2025.

Profwyd y wefan hon ddiwethaf ar 26 Awst 2025. Defnyddiwyd y dulliau a’r offer canlynol. Defnyddiwyd y dulliau a’r offer canlynol:

  • Gwiriwr W3C (delweddau, penawdau, iaith, llywio gyda bysellfwrdd, dolenni neidio i’r cynnwys)
  • WAVE Web Accessibility Evaluation Tools
  • Gwirio chwyddo â llaw.

Adborth a gwybodaeth gyswllt

Os gwelwch nad yw adran benodol o’n gwefan yn hygyrch, ac na allwch gael mynediad at y wybodaeth sydd ei hangen arnoch, cysylltwch â ni a byddwn yn sicrhau eich bod yn derbyn y wybodaeth yr ydych ei hangen.

Gweithdrefn orfodi

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os ydych wedi’ch lleoli yn y DU, ac nad ydych yn fodlon â’r ffordd rydym yn ateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).