Y Rhaglen Gyfoethogi Genedlaethol
Datblygu eich talentau a llwyio eich dyfodol.
Mae’r Rhaglen Gyfoethogi Genedlaethol yn eich paratoi ar gyfer eich cam nesaf ar ôl gadael y coleg, waeth beth fydd hynny.
Mae’r Rhaglen Gyfoethogi Genedlaethol yn gydweithrediad ar draws Cymru rhwng y Brifysgol Agored yng Nghymru a phob un o’r 12 coleg yng Nghymru.
Mae’r RhGG yn cynnig fideos, sain a dysgu rhyngweithiol ar ystod eang o bynciau diddorol.
Caniateir amser dysgu hunan-arweiniol, er mwyn cwblhau cyrsiau ar bynciau sy’n eich diddori fwyaf ar OpenLearn, sef sef llwyfan dysgu ar-lein am ddim y Brifysgol Agored. P’un ai ydi hynny’n gwrs un awr neu’n rhywbeth sy’n cymryd ychydig yn hirach, bydd miloedd o ddeunyddiau dysgu am ddim ar gael i chi er mwyn datblygu’ch dealltwriaeth a’ch paratoi ar gyfer gwaith neu astudiaeth bellach.
