Dysgu ar-lein am ddim, hyblyg

Dewch i ddysgu rhywbeth newydd heddiw

Cewch ddigon o ysbrydoliaeth gyda’r amrywiaeth o gyrsiau am ddim a argymhellir a’r adnoddau eraill isod gan OpenLearn. Mae adnoddau OpenLearn am ddim lle gallwch astudio pryd y mynnwch ac wrth eich pwysau.

Ewch i'r dudalen lanio RhGG ar OpenLearn

Beth yw OpenLearn?

Gwefan gan y Brifysgol Agored yw OpenLearn. Mae’n gartref i dros 1,000 o gyrsiau byr am ddim ynghyd â miloedd o erthyglau, fideos, podlediadau a gweithgareddau rhyngweithiol ar ystod eang o bynciau.

Gydag OpenLearn, chi sy’n penderfynu ble a pha mor bell rydych chi’n mynd â’ch taith ddysgu. Chi sy’n penderfynu faint o amser rydych chi am ei ymrwymo i astudio, y lefel rydych chi am astudio arni, a’r cyflymder rydych yn datblygu arno.

Bydd OpenLearn yn eich helpu chi i:

  • archwilio dysgu ar-lein am ddim
  • dod o hyd i’r cyrsiau sydd o ddiddordeb i chi
  • myfyrio ar ble’r ydych chi nawr, ble’r hoffech ei gyrraedd a sut i gyrraedd yno
  • datblygu sgiliau astudio
  • deall y llwybrau i astudio ffurfiol.

Efallai eich bod chi eisiau dysgu sgil newydd, gwella cyfleoedd o ran eich gyrfa neu ddysgu mwy am rywbeth sydd o ddiddordeb i chi.

Os nad ydych erioed wedi defnyddio OpenLearn o’r blaen, rydym yn argymell gwylio’r canllawiau fideo isod i gael trosolwg.

  • Mae Emyr o'r Brifysgol Agored yng Nghymru yn eich tywys drwy'r broses o greu cyfrif OpenLearn.
  • Emyr o'r Brifysgol Agored yng Nghymru gyda rhai awgrymiadau ar ddod o hyd i gyrsiau ar OpenLearn.
  • Mae Emyr o'r Brifysgol Agored yng Nghymru yn trafod rheoli eich cyrsiau ac olrhain eich cynnydd ar OpenLearn.

Sut ydw i’n cael mynediad at OpenLearn?

Y cyfan sydd ei angen arnoch yw cyfrifiadur, dyfais tabled neu ffôn clyfar a mynediad at y rhyngrwyd. Os nad oes gennych y rhyngrwyd gartref, gallech ddefnyddio eich coleg, llyfrgell leol neu ganolfan ddysgu gymunedol.

Byddwch yn barod ac yn hyblyg

Cynlluniwch faint o amser y gallwch einroi ar gyfer astudio bob wythnos a phryd – byddwch yn realistig! Efallai y bydd yn ddefnyddiol cadw dyddiadur dysgu yn nodi beth, pryd, ble rydych wedi astudio a sut deimlad oedd o, beth aeth yn dda a beth oedd ddim cystal. Gallwch ddefnyddio hwn i newid eich dull a gwella eich profiad dysgu ar hyd y ffordd.

Myfyrio ar eich dysgu

Gall fod yn ddefnyddiol cadw cofnod o sut mae eich dysgu’n mynd a myfyrio ar eich cynnydd. Gallwch ddefnyddio dogfen Word neu ysgrifennu mewn llyfr nodiadau. Mae yna dempledi defnyddiol ar gael ar OpenLearn fel canllaw. Gall myfyrio eich helpu i edrych ar eich dewisiadau a’ch cymhellion, a gwerthfawrogi’ch cyflawniadau a’r sgiliau rydych wedi’u meithrin hyd yma.

Ble ydw i’n dechrau?

Gallwch bori drwy detholiad o gyrsiau am ddim a argymhellir ac adnoddau dysgu eraill ar dudalen lanio Rhaglen Gyfoethogi Genedlaethol OpenLearn.

Ewch i'r dudalen lanio RhGG ar OpenLearn